Neidio i’r cynnwys
← Cyfeiriadur
BusnesAr agor

Viridian Consulting Engineers Ltd

Ymgynghoriaeth Gwasanaethau Peirianneg Fecanyddol a Thrydanol

Sefydlwyd Viridian Consulting Engineers Ltd ym mis Gorffennaf 2010, gan gynnig atebion dylunio Gwasanaethau Peirianneg arbenigol a chyngor ar gynaliadwyedd ar gyfer yr amgylchedd adeiledig.

Gan weithredu o’n swyddfeydd yng Nghonwy ac yng nghanol Manceinion, mae Viridian (sef y gair Lladin am arlliw o wyrdd) yn awyddus i gynorthwyo rheolwyr adeiladau, datblygwyr, contractwyr a busnesau fel ei gilydd i fynd i’r afael â lleihau carbon a materion hinsawdd byd-eang. Ein cenhadaeth yw darparu atebion Mecanyddol a Thrydanol cynaliadwy i helpu i leihau’r defnydd o ynni a’r allyriadau carbon cysylltiedig, gan leihau biliau ynni’r defnyddiwr terfynol yn y pen draw.

Mae gan Beirianwyr Viridian brofiad helaeth o ddylunio gosodiadau hawdd eu defnyddio ac ynni-effeithlon er mwyn sicrhau amodau cyfforddus. Rydym yn defnyddio pecynnau meddalwedd deinamig uwch i helpu i gynhyrchu’r dyluniadau gorau posibl ar gyfer pob gosodiad, o ran cysur y defnyddiwr a chost defnyddio, gan weithio o fewn cyfyngiadau’r gyllideb y cytunwyd arni.

Logo Viridian Consulting Engineers Ltd

Cysylltwch â Viridian Consulting Engineers Ltd yn uniongyrchol

Oriau agor

Dydd Llun
9yb – 5.30yh
Dydd Mawrth
9yb – 5.30yh
Dydd Mercher
9yb – 5.30yh
Dydd Iau
9yb – 5.30yh
Dydd Gwener
9yb – 4.30yp

Ym Modlondeb, Ffordd Bangor, Conwy, LL32 8DH

Nesaf yn y cyfeiriadur

Dental Academy Conwy

→