Neidio i’r cynnwys
← News & events

Tenants · May 2026

New Dental Academy to Open at Bodlondeb in Conwy

A new dental practice is set to open at Bodlondeb in Conwy, bringing at least 20 new jobs and significantly expanding access to dental services in the area.

Ravi Singh, Nick Pritchard a Darren King yn ysgwyd llaw yn y cyntedd ym Modlondeb

Picture shows from left to right: Ravi Singh, Nick Pritchard and Darren King.

Darllenwch yn Gymraeg ↓

A new dental practice is set to open at Bodlondeb in Conwy, bringing at least 20 new jobs and significantly expanding access to dental services in the area.

The new practice, to be known as Dental Academy Conwy, has signed a 20-year lease at the redevelopment site and is aiming to open this summer, subject to planning approval and inspection by the local health board.

The project is being led by practice owners Darren King and Ravi Singh, who have worked together since 2013 and have extensive NHS experience. The pair are also behind the existing Dental Academy Bangor, which works in partnership with Bangor University to help train Hygienists and Dental Therapy students.

The new Conwy facility will feature 10 treatment rooms and is expected to see between 200 and 250 patients per day, offering both NHS and private dental treatments.

As well as improving local access to dentistry, the development is expected to create at least 20 jobs for local people.

“We are really excited to bring Dental Academy Conwy to Bodlondeb. We have always been passionate about providing high-quality dental care while also creating opportunities for local people through training and career progression.”— Darren King
“Our experience at Dental Academy Bangor has shown the importance of investing in people and working closely with the local community. We are looking forward to building something special in Conwy.”— Ravi Singh

The partners say the Bangor practice has already created 25 jobs, with more than half filled by Welsh speakers from the local area. They also highlighted ongoing staff development opportunities, including supporting dental nurses in further professional training.

“We are delighted to welcome Dental Academy Conwy to Bodlondeb. Securing a long-term commitment from such an experienced healthcare provider is a major boost for the site and for Conwy as a whole.”— Nick Pritchard, Director, Quidos Investments

“This development will not only improve access to dental services locally, but also create skilled jobs and bring significant daily footfall into the area as Bodlondeb continues to evolve.”

The arrival of Dental Academy Conwy marks another significant milestone in Quidos Investments’ ongoing regeneration of the Bodlondeb site, with further announcements expected in the coming weeks.

Cymraeg

Agor Academi Ddeintyddol Newydd ym Modlondeb yng Nghonwy

Llun yn dangos o’r chwith i’r dde: Ravi Singh, Nick Pritchard a Darren King.

Bydd practis deintyddol newydd yn agor ym Modlondeb yng Nghonwy, a fydd yn dod ag o leiaf 20 o swyddi newydd ac yn ehangu mynediad yn sylweddol i wasanaethau deintyddol yn yr ardal.

Mae’r practis newydd, a fydd yn cael ei alw’n Academi Ddeintyddol Conwy, wedi arwyddo prydles 20 mlynedd ar gyfer y safle sy’n cael ei ailddatblygu. Y bwriad ydy y bydd yn agor yr haf hwn, yn amodol ar gymeradwyaeth gynllunio ac archwiliad gan y bwrdd iechyd lleol.

Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan berchnogion y practis, sef Darren King a Ravi Singh, sydd wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd ers 2013, ac sydd â phrofiad helaeth yn y GIG. Ymdrechion y ddau sydd hefyd wrth wraidd Academi Ddeintyddol Bangor, sy’n bodoli eisoes, ac yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor i helpu i hyfforddi Hylenwyr a myfyrwyr Therapi Deintyddol.

Bydd y cyfleuster newydd yng Nghonwy’n cynnwys 10 ystafell driniaeth. Disgwylir y bydd yn gweld rhwng 200 a 250 o gleifion y dydd, a bydd yn cynnig triniaethau deintyddol ar sail darpariaeth y GIG a phreifat.

Yn ogystal â gwella mynediad lleol i ddeintyddiaeth, disgwylir y bydd y datblygiad yn creu o leiaf 20 o swyddi i bobl leol.

“Rydyn ni’n wrth ein boddau’n cael dod ag Academi Ddeintyddol Conwy i Fodlondeb. Rydyn ni bob amser wedi teimlo’n angerddol am ddarparu gofal deintyddol o ansawdd uchel, wrth fynd ati hefyd i greu cyfleoedd i bobl leol drwy hyfforddiant a datblygu eu gyrfaoedd.”— Darren King
“Mae ein profiad yn Academi Ddeintyddol Bangor wedi dangos pwysigrwydd buddsoddi mewn pobl a gweithio’n agos gyda’r gymuned leol. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gael meithrin rhywbeth arbennig yng Nghonwy.”— Ravi Singh

Dywed y partneriaid fod y practis ym Mangor eisoes wedi creu 25 o swyddi, gyda mwy na hanner ohonyn nhw wedi’u llenwi gan siaradwyr Cymraeg o’r ardal leol. Tynnwyd sylw ganddyn nhw hefyd at gyfleoedd parhaus i ddatblygu staff, gan gynnwys cefnogi nyrsys deintyddol i wneud rhagor o hyfforddiant proffesiynol.

“Rydyn ni’n falch o gael croesawu Academi Ddeintyddol Conwy i Fodlondeb. Mae sicrhau ymrwymiad hirdymor gan ddarparwr gofal iechyd mor brofiadol yn hwb mawr ar gyfer y safle, a Chonwy yn ei chyfanrwydd.”— Nick Pritchard, Cyfarwyddwr Quidos Investments

“Bydd y datblygiad hwn nid yn unig yn gwella mynediad i wasanaethau deintyddol yn lleol, ond hefyd yn creu swyddi medrus, ac yn dod â nifer sylweddol ymwelwyr i’r ardal bob dydd wrth i Fodlondeb barhau i esblygu.”

Mae dyfodiad Academi Ddeintyddol Conwy’n nodi carreg filltir arwyddocaol arall yng ngwaith adfywio parhaus Quidos Investments yn safle Bodlondeb, a disgwylir rhagor o gyhoeddiadau yn ystod yr wythnosau nesaf.